Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
20 Ionawr 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar ddeiseb P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai
(30 munud)
NDM7550 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai’ a gasglodd 18,103 o lofnodion.
P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Hawliau plant yng Nghymru
(60 munud)
NDM7549 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Hawliau plant yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2020.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 5 Hydref 2020.
Dogfennau
ategol
Llythyr
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor
– 17 Rhagfyr 2020
7 Dadl Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Mesurau yn y dyfodol i atal a mynd i'r afael â lledaeniad Covid-19
(30 munud)
NDM7547 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y niwed a achosir gan fesurau a gymerwyd i atal feirws SARS-CoV-2 rhag lledaenu.
2. Yn credu bod mesurau lliniaru coronafeirws wedi arwain at ddifrod i economi Cymru ac wedi effeithio'n negyddol ar gyfleoedd bywyd cenedlaethau iau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu mai'r cyfyngiadau symud presennol yw'r rhai olaf, drwy sicrhau:
a) bod gan Gymru drefn brofi, olrhain ac ynysu ddigonol a'i bod yn darparu cyfleusterau i ganiatáu i unigolion ynysu eu hunain yn llwyr oddi wrth bob cyswllt wyneb yn wyneb.
b) bod gan GIG Cymru fwy o welyau gofal critigol, gyda nifer y gwelyau ICU y pen yn nes at y nifer o welyau sydd gan yr Almaen neu'r Unol Daleithiau, lle mae llai o farwolaethau fesul y o'r boblogaeth na Chymru.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y loteri cod post cymorth busnes, gan sicrhau bod pob busnes yng Nghymru sy'n gorfod cau o ganlyniad i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael ei ddigolledu'n ddigonol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar wasanaethau cyhoeddus a busnes yng Nghymru.
2. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru a chefnogi ymateb y sector cyhoeddus i'r pandemig, gan gynnwys:
a) £5.2 biliwn o gymorth ariannol i Lywodraeth Cymru;
b) y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws;
c) y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig
d) cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws
e) y cynllun benthyciadau adfer;
f) caffael brechlynnau a cyfarpar diogelu personol yn y DU; a
g) defnyddio'r lluoedd arfog.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dyrannu'r adnoddau nas defnyddiwyd sy'n weddill a ddaeth i law gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau Cymru;
b) rhoi terfyn ar ddosbarthu cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ar sail cyntaf i'r felin a chanolbwyntio adnoddau ar y rhai mwyaf anghenus;
c) gwarantu bod cymorth busnes ar gael ar unwaith pan gaiff cyfyngiadau eu cyflwyno; a
d) datblygu cynllun cynhwysfawr i sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig gyda phrosiectau seilwaith arloesol ac amgylchedd croesawgar i fusnesau yng Nghymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y mesurau angenrheidiol a gymerwyd i ddiogelu bywydau ac i atal y feirws SARS-COV-2 rhag lledaenu wedi cael effaith ddofn ar ein heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau.
2. Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi economi Cymru, a'i hymrwymiad i sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd oherwydd effeithiau'r pandemig.
3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyfyngiadau symud i ben cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny.
4. Yn nodi mai ein pecyn cymorth i fusnesau yw'r un mwyaf hael yn y DU a bod dros £1.67bn o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ers dechrau mis Ebrill 2020.
Gwelliant 3 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn strategaeth COVID-19 wahanol i Lywodraeth y DU.
Cyd-gyflwynwyr
Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Gwelliant 4 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r strategaeth COVID-19 fwyaf effeithiol i Gymru yw ymateb unedig, DU-gyfan, dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Cyd-gyflwynwyr
Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r cynnig.
8 Cyfnod pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7551 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cefnogi'r rhai sy'n ein cefnogi ni: llesiant meddyliol ein gweithlu GIG a gofal cymdeithasol.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2021